Ymweliadau Addysgol/ Educational Visits
Ymweliad Dino Dig
Heddiw, rydym ni wedi troi i mewn i ymchwilwyr yn edrych ar wyau dirgel. Roedd rhaid i ni ddilyn y llwybr i edrych am ba anifail oedd am eguro allan o'r wy. Dinosoriaid oedden nhw!! Mae maint olion traed y dinosoriaid yn anferthol ac roedd nifer ohonom ni yn gallu ffitio mewn iddo. Cawsom ni gyfle i edrych am drysor, ffosilau a darnau o esgyrn yn yr ogof. Roedd rhaid i ni roi'r darnau o esgyrn at ei gilydd i greu sgerbwd Tyranosorws. Am hwyl!
Today, we turned into explorer's looking at mysterious eggs. We had to follow the path to see what kind of animal was going to hatch from the egg. They were dinosaurs!! Their footprints are huge and many of us were able to fit inside of it. We had an opportunity to look for treasure, fossils and bones in the cave. We had to put all of the dinosaur bones together to create the skeleton of a Tyrannosaurus Rex. What fun!
Trip i Sw Gaer
Cawsom ni gymaint o hwyl yn Sw Gaer yn edrych ar yr holl anifeiliaid. Roedd y diwrnod mor brysur cafodd rhai o'r plant trafferth i gadw llygaid nhw ar agor ar y ffordd adref.
We had such a good time in Chester Zoo looking at all the different animals. The day was so busy, some of the children struggled to keep their eyes open on the way home.
Ymweliad PC Mark Jones
Daeth PC Mark Jones i weld ni heddiw, yn anffodus mae genom ni dwy ddynes ddrwg yn ein dosbarth ni.. Mrs Thellwell ag Anti Jo! Roedd PC Mark Jones wedi dangos i'r dosbarth beth sy'n digwydd i'r bobl ddrwg a lle maen nhw'n gorfod eistedd. Cafodd y dosbarth cyfle i glywed y seiren hefyd.
PC Mark Jones came to see us today, unfortunately we have two naughty ladies in our class... Mrs Thellwell and Auntie Jo! PC Mark Jones showed the class what happens to the naughty people and where they have to sit. The class also had a chance to hear the siren.
Ymweliad i Eglwys Santes Fair
Gan ein bod ni'n dysgu am stori'r Pasg, rydym ni wedi mynd draw i'r eglwys leol i siarad hefo Parchedig Carole Poolman. Roedd Carole wedi esbonio pwrpas nifer o bethau diddorol oedd yn yr eglwys. Wnaeth pawb eistedd i wrando ar stori'r Pasg a phwysigrwydd Sul y Palmwydd, roedd Carole yn garedig iawn yn gadael i bawb mynd a chroes adref hefo nhw. Cafodd y dosbarth hwyl yn dysgu can newydd am Iesu Grist a dysgu mwy am yr eglwys. Diolch yn fawr iawn Parchedig Carole Poolman.
Due to us learning about the story of Easter we went to visit our local church to talk to Rev Carole Poolman. Rev Carole Poolman explain the purpose of all the interesting things within the church. Everyone sat down to listen to the story of Easter and the importance of Palm Sunday, Carole was kind enough to allow everyone to take a cross home. The class had lots of fun learning a new song about Jesus and learning more about the church. Thank you very much Rev Carole Poolman.
Trip i Gastell y Waun
Cawsom ni gymaint o hwyl yn edrych o gwmpas Castell y Waun. Wnaethom ni dysgu am Thomas Middleton a'i deulu, a sut fath o ddillad roedd y bobl gyfoethog a tlawd yn gwisgo amser maith yn ôl. Cawsom ni gyfle i edrych ar y fath o fwydydd roedd pobl dlawd a chyfoethog yn cael bwyta ac yna gwneud bisgedi cwlwm ein hunain. Roedd llawer o blant dewr wedi mynd lawr i edrych ar y dwnsiwn! Diolch yn fawr iawn i'r staff yn Gastell y Waun am wneud ein diwrnod ni mor hwylus!
We had so much fun looking around Chirk Castle. We learnt all about Thomas Middleton's family and what kind of clothes rich and poor people wore a long time ago. We had a chance to look at the different types of food that the rich and the poor would eat, we even had a chance to make our own knot biscuit. There were a lot of brave children who went down to have a look at the dungeon! Thank you very much to all the staff at Chirk Castle for making our day so fun!
Pwy sydd eisiau dysgu cerddoriaeth?
Am hwyl a sbri yn gwrando ar yr athrawon cerddoriaeth yn chwarae'r offerynnau gwahanol!
What fun we had listening to the music teachers playing all sorts of different instruments!
Gwasanaeth Tân
Diolch yn fawr iawn i wasanaethau tân Wrecsam am ddod i siarad hefo ni heddiw. Roedd pawb wedi mwynhau gwrando ar yr holl wybodaeth ddiddorol am y gwisgoedd a'r systemau ymateb.
Oeddech chi'n gwybod bod yr ymladdwyr tân yn gorfod newid a chychwyn teithio o fewn 60 eiliad i'r larwm ganu?
Thank you very much to the Wrecsam fire services for speaking with us today. We had so much fun listening to all the interesting information about the uniform and reaction strategies.
Did you know a firefighter has to be dressed and leaving the station within 60 seconds of the alarm ringing?
Sioe Dewin a Doti
A hoi! A hoi! A bant a ni.. i chwilio am y trysor dewch yn fry!! Am hwyl a sbri yn barti Dewin a Doti, cawsom ni gyfle i gyfarfod Bendant y morleidr hefyd!!
A hoi! A hoi! A bant a ni.. i chwilio am y trysor dewch yn fry!! What fun we had at Dewin and Doti's party, we even had a chance to meet Bendant the pirate!