Eisteddfod Treuddyn
Wedi'r Gaeaf
Clywais leisiau'r adar bach
Heddiw yn y goedlan,
Ffliwtiau aur yn canu'n iach,
Miwsig pêr ym mhob-man.
Pam y canu hyfryd hwn
heddiw yn y goedlan?
Gwelais ŵyn yn wlanog wyn
Heddiw ar y meysydd,
Chwarae'n ysgafn wrth y llyn,
Deiliad bach y dolydd.
Pam y chwarae hyfryd iach
heddiw ar y meysydd?
Gwanwyn ddaeth ar draed o blu,
Chlywodd neb y cerdded.
Wedi'r gaeaf, daeth yn hy'
Yna gweithio'n galed.
Gwanwyn ddaeth ar faes a dôl,
chlywodd neb y cerdded.