Caneuon
Bihafio!
Bihafio!
Dyma rywbeth rhaid ei gofio
Yn ein hysgol ni o hyd-
Mae yn bwysig dilyn y rheolau i gyd.
Codi llaw, pawb yn ei dro;
Cerdded ar y corridor.
Bihafio, bihafio.
Peidio dweud anwiredd byth;
Bod yn dda, sefyll yn syth.
Bihafio, bihafio.
Dyma rywbeth rhaid ei gofio
Yn ein hysgol ni o hyd-
Mae yn bwysig iawn ei bod ni’n
dilyn y rheolau i gyd.
Ymddwyn yn garedig iawn;
Dangos parch at eiddo wnawn.
Bihafio, bihafio.
Peidio cicio, taro neb,
Bod yn gwrtais ac yn deg,
Bihafio, bihafio.
Dyma rywbeth rhaid ei gofio
Yn ein hysgol ni o hyd-
Mae yn bwysig iawn ei bod ni’n
dilyn y rheolau i gyd.
Gwneud ein gorau glas bob un,
Peidio gwneud dim yn ddi-lun.
Bihafio, bihafio.
Gwrando ar oedolion, rhaid,
Peidio pan maen nhw’n dweud “paid”,
Bihafio, bihafio.
Dyma rywbeth rhaid ei gofio
Yn ein hysgol ni o hyd-
Mae yn bwysig iawn ei bod ni’n
dilyn y rheolau i gyd. (x2)
La la la la la la…
Gyda'n Gilydd
Gyda'n Gilydd
Yma gyda’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Yma gyda’n gilydd, oll yn un.
Popeth wnawn ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Popeth wnawn ‘da’n gilydd,
Fe’i gwnawn fel tîm.
Dysgu gwneud pob dim yn iawn,
Drwy y bore a’r prynhawn.
Ffrindiau’i gyd, yma ‘nghyd,
Dysgu gyda’n gilydd wnawn.
Chwarae gyda’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Chwarae gyda’n gilydd,
Sy’n hwyl a sbri!
Gweithio gyda’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Gweithio gyda’n gilydd,
Yw’r hyn wnawn ni.
Dysgu gwneud pob dim yn iawn,
Drwy y bore a’r prynhawn.
Ffrindiau’i gyd, yma ‘nghyd,
Dysgu gyda’n gilydd wnawn.
Canu gyda’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Canu gyda’n gilydd, mewn harmoni.
Symud gyda’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Symud gyda’n gilydd,
Dewch, un, dau, tri!
Dysgu gwneud pob dim yn iawn,
Drwy y bore a’r prynhawn.
Ffrindiau’i gyd, yma ‘nghyd,
Dysgu gyda’n gilydd wnawn.
Clapio gyda’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Clapio gyda’n gilydd,
I’n hysgol ni!
Yma gyda’n gilydd, ‘da’n gilydd, ‘da’n gilydd.
Yma gyda’n gilydd, oll yn un.
Cân Ysgol Terrig! gyda'r Welsh Whisperer
Cân Ysgol Terrig
Mewn ysgol, yng Nghymru,
Mae’r plant, yn hapus ac yn llon.
Plant cyffrous, a doniol,
Ysgol Terrig yw’r gorau yn y byd.
Mae’r athrawon, yn ein helpu,
Yn y dosbarth, neu ar y buarth mawr.
Mathemateg, a darllen,
Neu coginio, yn y gegin fwd.
Ysgol, Terrig, croeso i chi.
Dewch i weithio a chwarae gyda ni.
Dysgu doniau, i'r dyfodol,
Dewch gyda ni, mae’n hwyl a sbri!
Mae’n bwysig i siarad Cymraeg,
Yn yr ysgol, neu adref yn y tŷ.
Er mwyn cadw ein iaith,
Ni yw’r dyfodol, dyna’r ffaith.
Mae pawb yn ffrindiau yn Ysgol Terrig,
Yn cydweithio, pob tro yn estyn llaw.
Pawb yn chwarae ac yn rhannu,
Yma’n Nhreuddyn, fel teulu mawr.
Ysgol, Terrig, croeso i chi.
Dewch i weithio a chwarae gyda ni.
Dysgu doniau, i'r dyfodol,
Dewch gyda ni, mae’n hwyl a sbri! x2
Sosban Fach
Fy Ngardd Fach I
Instrumental
MOTD
From Now On 2
From Now On
Lawr ar Lan y Môr
Dwylo Dros y Mor
Dwi'n Gymro, Dwi'n Gymraes
Harbwr Diogel
Hei Mistar Urdd
Deffra!
Popeth Sydd O'n Cwmpas
Sosban Fach
Mishamba Mishamba
Popeth Sydd O'n Cwmpas
Braf yw bwyta
Mam Wnaeth Gôt i Mi
Mis Mawrth Unwaith Eto
Olifar
Food, Glorious Food!
Oliver!
Where is Love?
Consider Yourself
Pick a Pocket or Two
Ceiliog
I'd Do Anything
Be Back Soon
Stryd Oes Fictoria
Who Will Buy?
As Long As He Needs Me
Gloch
Oom-Pah-Pah
Gunshot
Finale
My Name
Samba'r Cynhaeaf
Will cwac cwac
Cofio bob amser
Bwgan Brain
_________________________________________________________________________________________________________________
Caneuon Nadolig
Cân 2 - Boncyff Dolig yn Llosgi.wav
Cân 3 - Y Bang a’r Ffrwydrad.wav
Cân 4 - Addurno’r Goeden.wav
Cân 5 - Sain y Noël .wav
Cân 6 - Lapio Chwim, Stacio Chwim.wav
Cân 7 - Ar Fore Nadolig.wav
Cân 9 - Dadl ‘Dolig.wav
Geiriau’r Caneuon
Cân 2
Cân 3
Cân 4
Cân 5
Cân 6 (tune of Jingle Bells)
Cân 7